Veep

Veep
Enghraifft o'r canlynolcyfres deledu Edit this on Wikidata
CrëwrArmando Iannucci Edit this on Wikidata
GwladUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Dechreuwyd22 Ebrill 2012 Edit this on Wikidata
Daeth i ben12 Mai 2019 Edit this on Wikidata
Genredychan gwleidyddol, cyfres deledu comig Edit this on Wikidata
Prif bwncgwleidyddiaeth Edit this on Wikidata
Yn cynnwysVeep, season 1, Veep, season 2, Veep, season 3, Veep, season 4, Veep, season 5, Veep, season 6, Veep, season 7 Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithWashington Edit this on Wikidata
Cwmni cynhyrchuHBO Edit this on Wikidata
CyfansoddwrRupert Gregson-Williams Edit this on Wikidata
DosbarthyddWarner Bros. Television Studios, Hulu, HBO Max Edit this on Wikidata
Iaith wreiddiolSaesneg Edit this on Wikidata[1]
Gwefanhttp://www.hbo.com/veep Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Veep yn gyfres gomedi-wleidyddol, Americanaidd, sy'n serennu Julia Louis-Dreyfus a ymddangosodd gyntaf ar HBO ar 22 Ebrill 2012. Crewyd y gyfres gan Armando Iannucci fel addasiad o'r comedi sefyllfa Brydeinig The Thick of It.[2]

Lleolir y gyfres yn swyddfa Selina Meyer, Is-Arlywydd yr Unol Daleithiau ffuglennol, a ddaw yn ddiweddarach yn Arlywydd. Mae'r gyfres yn dilyn Meyer a'i thîm yn ei hymdrech i wneud ei marc ar wleidyddiaeth (ddychmygol) UDA, heb gael ei baglu gan gyd-wleidyddion cyfrwys a dichellgar.[3]

Derbyniodd Veep ganmoliaeth gan y beirniaid ffilm, ac enillodd sawl gwobr o bwys. Fe'i henwebwyd chwe blynedd o'r bron am Wobr Emmy Primetime am y 'Gyfres Eithriadol o Dda' ac enillodd bedair gwaith (hyd at 2017). Mae hefyd wedi ennill nifer o wobrau Writers Guild of America Award for Television, ac enillodd perfformiad Louis-Dreyfus fel Selina Meyer bum Gwobr Primetime Emmy am yr actores eithriadol o dda a dwy wobr Screen Actors Guild Awards, dwy Wobr Critics' Choice Television Awards, a Gwobr y TCA - Television Critics Association Award, a 5 enwebiad am Wobr y Golden Globe. Enwebwyd Tony Hale 5 gwaith yn olynol am Wobr Emmy (yn chwarae Gary Walsh) gan ennill yn 2013 a 2015.

Cychwynnodd y 6ed gyfres ar 16 Ebrill 2017,[4] a chafwyd addewid o 7fed gyfres yn 2018.[5]

  1. https://www.fernsehserien.de/veep-die-vizepraesidentin. dyddiad cyrchiad: 7 Mehefin 2020. dynodwr fernsehserien.de: veep-die-vizepraesidentin.
  2. Andreeva, Nellie (January 13, 2012). "UPDATE: Premiere Dates For HBO's 'Girls,' 'Game Of Thrones', 'Veep' & 'Game Change'". Deadline.com. Cyrchwyd 24 Ebrill 2012.
  3. "About Veep". HBO. Cyrchwyd 5 Mai 2016.
  4. Roots, Kimberly (7 Ebrill 2017). "Veep to Return to HBO in April". TVLine. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-08-08. Cyrchwyd 7 Ebrill 2017.
  5. Petski, Denise (25 Mai 2017). "'Veep' & 'Silicon Valley' Renewed By HBO". Deadline. Cyrchwyd 25 Mai 2017.

Developed by StudentB