Arwyddair | Virginia is for lovers |
---|---|
Math | taleithiau'r Unol Daleithiau |
Enwyd ar ôl | Colony of Virginia |
Prifddinas | Richmond |
Poblogaeth | 8,631,393 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Our Great Virginia |
Pennaeth llywodraeth | Glenn Youngkin |
Cylchfa amser | America/Efrog Newydd |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | taleithiau cyfagos UDA, South Atlantic states |
Sir | Unol Daleithiau America |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Arwynebedd | 110,862 km² |
Uwch y môr | 290 metr |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd |
Yn ffinio gyda | Gogledd Carolina, Gorllewin Virginia, Maryland, District of Columbia, Tennessee, Kentucky |
Cyfesurynnau | 38°N 79°W |
US-VA | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | government of Virginia |
Corff deddfwriaethol | Virginia General Assembly |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Governor of Virginia |
Pennaeth y Llywodraeth | Glenn Youngkin |
Talaith yng nghanolbarth arfordir dwyreiniol yr Unol Daleithiau, ar Gefnfor Iwerydd yw Virginia. Ceir gwastadir arfordirol isel yn y dwyrain sy'n codi i fryniau bychain sy'n arwain i'r Appalachians coediog yn y gorllewin. Ers canrifoedd mae'n enwog am ei thybaco.
Cafodd Virginia ei henwi ar ôl Elisabeth I, brenhines Lloegr, "y Frenhines Wyryfol". Sefydlwyd y wladfa Seisnig gyntaf yn y Byd Newydd yno gan Cwmni Virginia yn 1607. Tyfodd yn gyflym yn y ddwy ganrif nesaf. Un o'r rhai a denwyd yno oedd y bardd Goronwy Owen, a fu farw yno ar ei blanhigfa fach yn 1769. Roedd yn fagwrfa i sawl un o arweinwyr y Chwyldro Americanaidd, a daeth yn dalaith yn 1788. Roedd 4 allan o 5 arlywydd cyntaf yr Unol Daleithiau yn frodorion o Virginia, ond yn ystod Rhyfel Cartref America Richmond oedd prifddinas Cynghreiriad y De; erys yn brifddinas y dalaith heddiw.