Math | dinas, ardal ddi-blwyf |
---|---|
Ardal weinyddol | Dinas Wakefield |
Poblogaeth | 99,251 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gorllewin Swydd Efrog (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Yn ffinio gyda | Morley |
Cyfesurynnau | 53.6825°N 1.4975°W |
Cod OS | SE335205 |
Cod post | WF1-WF90 |
Dinas yng Ngorllewin Swydd Efrog, Swydd Efrog a'r Humber, Lloegr, yw Wakefield,[1] sy'n ganolfan weinyddol y sir. Fe'i lleolir mewn ardal ddi-blwyf ym mwrdeistref fetropolitan Dinas Wakefield. Mae'n gorwedd ar lan Afon Calder. Bu'n ganolfan ddiwydiannol mawr yn y gorffennol, yn enwedig fel canolfan ffatrioedd gwlân a'r diwydiant glo. Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Wakefield boblogaeth o 99,251.[2] Yma ymladdwyd Brwydr Wakefield, rhan o Ryfeloedd y Rhosynnau, yn y flwyddyn 1460. Gorchfygwyd byddin Rhisiart, Dug Efrog, gan y Lancastriaid a syrthiodd y dug ei hun.