Ciplun o hafan y Wicipedia Cymraeg ar 29 Hydref 2009, diwrnod ar ôl cyrraedd 25,000 o erthyglau | |
URL | cy.wikipedia.org |
---|---|
Masnachol? | Nac ydy |
Math o wefan | Gwyddoniadur arlein |
Cofrestru | Dewisol |
Ieithoedd ar gael | Cymraeg |
Perchennog | Sefydliad Wicimedia |
Lansiwyd ar | Gorffennaf 2003 |
Gwyddoniadur Cymraeg sy'n seiliedig ar Wikipedia yw'r Wicipedia Cymraeg, a lansiwyd yng Ngorffennaf 2003. Erbyn heddiw (Tachwedd 2024), mae ganddi oddeutu 281,378 o erthyglau. Yn 2023 daeth y Gymraeg yn 45ed allan o 600 o ieithoed mwya'r byd ar restr World Language Barometer, yn bennaf oherwydd cryfder Wicipedia Cymraeg.[1]
Hon, mae'n debyg, yw'r wefan Gymraeg fwyaf poblogaidd o ran nifer y darllenwyr, gyda chyfartaledd o 840,000 o dudalennau'n cael eu hagor pob mis gan ddarllenwyr unigryw (nid bots).[2][3] Mae'r cyfan o gynnwys Wicipedia a'i chwiorydd (testun, delweddau, ffilm ayb) wedi'u cofrestru ar drwydded CC-BY-SA sy'n drwydded sy'n caniatáu defnydd masnachol ohoni, neu ar drwydded agored debyg ee gall cwmni cyfyngedig ddefnyddio'r cynnwys a'i werthu am elw, ar rai amodau.[4]
Ers 15 Rhagfyr 2016 ceir mwy o erthyglau ar ferched ar y Wicipedia Cymraeg nag o ddynion - yr iaith gyntaf (allan o dros 330) i gyrraedd hynny.[5] Yn ôl arolwg o ddarllenwyr Wicipedia a gyhoeddwyd yn Chwefror 2017 roedd mwy o'r darllenwyr o'r farn fod yr wybodaeth ar yr Wicipedia Cymraeg yn 'gywir ac yn ddibynadwy' na'r ganran fyd-eang a wnaed yn 2011 mewn arolwg o'r Wicipedia Saesneg.[6]
Yng Ngorffennaf 2013, yn dilyn ffurfio Wici Cymru, penodwyd Rheolwr Cymru, swydd lawn amser, wedi'i noddi gan Lywodraeth Cymru a Wicimedia DU, er mwyn hyfforddi golygyddion i wella ac ychwanegu i gynnwys Wicipedia. Yn Ionawr 2014 penodwyd Trefnydd Hyfforddi sgiliau wici, a'r un mis hysbysebodd Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol am Gydlynydd Wicipedia yn y cylchgrawn Golwg. Yn Ionawr 2015 penododd Llyfrgell Genedlaethol Cymru Jason Evans yn Wicipediwr Preswyl llawn amser a phenodwyd ef yn Wicimediwr Cenedlaethol y Llyfrgell_Genedlaethol ym Medi 2017.[7][8][9]
Ers Haf 2016 mae Geiriadur Rhywogaethau Llên Natur ('Y Bywiadur') yn tynnu llif o dros 12,000 o ffotograffau o Gomin Wicimedia, drwy Wicidata, ac yn cynnwys dolen i dros 10,000 o erthyglau ar y Wicipedia Cymraeg.[10] Caiff Wicipedia hefyd ei rhestru fel adnodd Cymraeg ar wefannau Llyfrgell Genedlaethol Cymru[11] a'r BBC,[12][13] a chan borwr Mozilla Firefox.[14] Mae S4C yn awgrymu Wicipedia fel adnodd i isdeitlwyr Cymraeg y gellir ei defnyddio "gyda gofal".[15]