Mae angen diweddaru'r erthygl hon. Gallwch helpu drwy newid yr erthygl i adlewyrchu digwyddiadau diweddar neu ychwanegu gwybodaeth newydd. Gweler y dudalen sgwrs am ragor o wybodaeth. |
Logo Wicipedia - glôb sy'n cynnwys glyffiau o wahanol systemau ysgrifennu | |
URL | wikipedia.org |
---|---|
Slogan | Y gwyddoniadur rhydd y gall unrhyw un ei olygu. |
Masnachol? | Na |
Math o wefan | Dielw |
Cofrestru | Dewisol (angen er mwyn diogelu tudalennau a gweithrediadau gweinyddol ayyb) |
Ieithoedd ar gael | 269 iaith weithredol (281 ar y cyfan) |
Perchennog | Wikimedia Foundation (dielw) |
Crëwyd gan | Jimmy Wales, Larry Sanger[1] |
Lansiwyd ar | 14 Gorffennaf 2003 (fersiwn Cymraeg); 15 Ionawr 2001 (fersiwn Saesneg) |
Statws cyfredol | Gweithredol |
Gwyddoniadur rhyngwladol, amlieithog a reolir gan y Sefydliad Wicimedia yw Wicipedia (Saesneg: Wikipedia). Dechreuodd y fersiwn Saesneg ar 15 Ionawr 2001, ac yn ystod y pum mlynedd ddilynol, dechreuwyd fersiynau mewn dros 200 iaith arall. Ar ddiwedd 2001, roedd dros 20,000 erthygl yn y fersiwn Saesneg a 18 o wahanol ieithoedd. Erbyn Mehefin 2010, roedd 3.3 miliwn erthygl.
Lansiwyd y Wicipedia Cymraeg ar 14 Gorffennaf 2003. Roedd dros 21,600 erthygl yn y Wicipedia Cymraeg ym Mai 2009 ac roedd yn 60ain o ran safle ieithyddol â 5,500 o ddefnyddwyr cofrestredig. Erbyn Rhagfyr 2010 roedd nifer yr erthyglau wedi codi i dros 30,000 a'i safle ar y rhestr yn 66ed. Ar hyn o bryd, ceir 281,344 erthygl ar y fersiwn Cymraeg, sef y 42fed iaith allan o 332 iaith. Yn 2012 roedd y nifer o dudalennau a oedd yn cael eu hagor ar y Wicipedia Cymraeg (ar gyfartaledd y diwrnod) yn: 62,161.[2]
Ymhlith y fersiynau eraill o Wicipedia a geir mae Catalaneg, Llydaweg a Gwyddeleg.