William Price | |
---|---|
Ffotograff o'r Dr. William Price ym 1871 | |
Ganwyd | 4 Mawrth 1800 Rhydri |
Bu farw | 23 Ionawr 1893 Llantrisant |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | meddyg, ymgyrchydd yn erbyn pigiadau |
Siartydd, meddyg ac arloeswr rhyddid personol o Gymru oedd y Dr. William Price (4 Mawrth 1800 – 23 Ionawr 1893), a aned yn Rhydri,[1] ger Llantrisant, Bro Morgannwg (bwrdeisdref sirol Caerffili). Daeth yn aelod o'r Coleg Llawfeddygol Brenhinol.
Roedd o flaen ei amser yn ei syniadau cymdeithasol a safbwynt athronyddol. Daeth yn gymeriad adnabyddus yn ardal Pontypridd. Roedd yn llysieuwr ac yn noethlymunwr, er enghraifft. Roedd yn gefnogol i'r Siartwyr yn eu hymdrechion i ennill hawliau i'r gweithwyr a chodi eu safonau byw. Yn sgîl ymdaith y Siartwyr ar Gasnewydd ym 1839 ffoes i Ffrainc. Daeth i adnabod y bardd Heinrich Heine ym Mharis.
Enwodd ei fab yn Iesu Grist, gan fwriadol dorri tabŵ crefyddol; enillodd achos llys enwog i gael yr hawl i amlosgi ei fab a fu farw yn chwe mis oed. Ar 14 Mawrth 1884, pan oedd ar ganol paratoi i gorfflosgi ei fab, fe'i arestiwyd gan yr heddlu. Dywedodd yn y Llys nad oedd deddf dros gorff losgi, ond nad oedd ychwaith unrhyw ddeddf yn gwahardd corfflosgi. Cytunodd y llys gydag ef a dychwelodd at y gwaith o gorfflosgi ei fab. Paratodd yr achos llys hwn y ffordd i ddeddfau Corfflosgiad 1902.