Enghraifft o'r canlynol | cywair |
---|---|
Math | Khariboli |
Enw brodorol | اردو |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-1 | ur |
cod ISO 639-2 | urd |
cod ISO 639-3 | urd |
Gwladwriaeth | India, Pacistan, Ffiji, y Deyrnas Unedig, Canada, Unol Daleithiau America, Norwy |
System ysgrifennu | Urdu orthography |
Corff rheoleiddio | National Language Promotion Department |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Iaith a siaredir ym Mhacistan a gogledd India yw Wrdw, Urdu neu 'Wrdw Fodern Safonol' (اردو, traws. Urdū; a adwaenir hefyd fel Lashkari, لشکری[3]). Mae'n iaith sy'n perthyn i'r gangen Indo-Irananidd o'r teulu ieithoedd Indo-Ewropeaidd. Wrdw yw iaith swyddogol Pacistan, ac mae'n un o ieithoedd swyddogol India. O ran nifer o siaradwyr brodorol, mae oddeutu'r ugeinfed safle ymhlith ieithoedd y byd.
Hi yw iaith swyddogol (a lingua franca) Pacistan a Nepal ac mae'n un o 22 iaith swyddogol India, fel a nodir yng Nghyfansoddiad y wlad ac yn weithredol mewn chwe thalaith: Jammu a Kashmir, Telangana, Uttar Pradesh, Bihar, Jharkhand a Gorllewin Bengal ac yn y brifddinas Delhi.
Ffurf Persiaidd ar Hindustaneg yw Wrdw. Mae'r iaith Hindi yn ffurf arall ar Hindustaneg. Y prif wahaniaeth rhwng y ddwy iaith yw'r sgript a ddefnyddir; mae Wrdw'n defnyddio'r Sgript Berso-Arabaidd, tra mae Hindi'n defnyddio'r sgript Devanāgarī.
Er ei bod yn gymharol ifanc fel iaith lenyddol, mae corff sylweddol o farddoniaeth, rhyddiaith a thestunau crefyddol Wrdw.