Math | pentref, plwyf sifil |
---|---|
Ardal weinyddol | Dwyrain Swydd Gaer |
Poblogaeth | 1,320 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Gaer (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Yn ffinio gyda | Dodcott cum Wilkesley, Marbury cum Quoisley, Cholmondeley, Chorley, Cholmondeley |
Cyfesurynnau | 53.024°N 2.603°W |
Cod SYG | E04011030 |
Cod OS | SJ597467 |
Cod post | CW5 |
Pentref yn sir seremonïol Swydd Gaer, Gogledd-orllewin Lloegr, ydy Wrenbury. Fe'i lleolir ym mhlwyf sifil Wrenbury cum Frith yn awdurdod unedol Dwyrain Swydd Gaer. Mae’r plwyf yn cynnwys Gaunton's Bank, Pinsley Green, Porter's Hill, Smeaton Wood, Wrenbury Heath a Wrenburywood. Mae'r pentref ar Afon Weaver a Chamlas Llangollen. Mae Wrenbury tua 5 milltir i’r de-ddwyrain o Nantwich a 5 milltir i’r gogledd-ddwyrain o Eglwys Wen. Mae Marbury ac Audlem yn gyfagos. Mae canol y pentref yn Ardal Gadwraeth. Mae Llwybr Beicio Swydd Gaer yn mynd trwy’r pentref, ac mae gan Wrenbury orsaf reilffordd ar y llinell wrwng Cryw ac Amwythig.
Mae 3 pont goed ger y pentref ar Gamlas Llangollen, enghreifftiau o waith gynnar Thomas Telford, i gyd yn adeiladau rhestredig Gradd II.[1][2][3]