Gweriniaeth Wsbecistan O‘zbekiston Respublikasi, Ўзбекистон Республикаси (Wsbeceg) | |
Math | gwladwriaeth sofran, gwlad dirgaeedig, gwlad |
---|---|
Prifddinas | Tashkent |
Poblogaeth | 34,915,100 |
Sefydlwyd | 1 Medi 1991 (Annibyniaeth oddi wrth yr Undeb Sofietaidd) |
Anthem | Anthem Genedlaethol Wsbecistan |
Pennaeth llywodraeth | Abdulla Nigmatovich Aripov |
Cylchfa amser | UTC+05:00, Asia/Samarkand, Asia/Tashkent |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Wsbeceg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Canolbarth Asia |
Gwlad | Wsbecistan |
Arwynebedd | 448,978 km² |
Yn ffinio gyda | Casachstan, Cirgistan, Tajicistan, Affganistan, Tyrcmenistan |
Cyfesurynnau | 41°N 66°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Wsbecistan |
Corff deddfwriaethol | Oliy Majlis |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Wsbecistan |
Pennaeth y wladwriaeth | Shavkat Mirziyoyev |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Wsbecistan |
Pennaeth y Llywodraeth | Abdulla Nigmatovich Aripov |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $69,239 million |
Arian | Uzbekistani som |
Canran y diwaith | 11 ±1 canran |
Cyfartaledd plant | 2.2 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.727 |
Mae Wsbecistan, yn swyddogol Gweriniaeth Wsbecistan, yn wlad dirgaeedig yng Nghanolbarth Asia. Mae wedi'i hamgylchynu gan bum gwlad: Casachstan i'r gogledd, Cirgistan i'r gogledd-ddwyrain, Tajicistan i'r de-ddwyrain, Affganistan i'r de, a Tyrcmenistan i'r de-orllewin, sy'n ei gwneud yn un o ddim ond dwy wlad sydd wedi'u cloi ddwywaith ar y Ddaear, a'r llall yw Liechtenstein. Mae Wsbecistan yn rhan o'r byd Tyrcig, yn ogystal ag yn aelod o Sefydliad Gwladwriaethau Tyrcig. Wsbeceg sy'n cael ei siarad gan fwyaf gan yr Wsbeceg, a hi yw'r iaith swyddogol, tra bod Rwsieg a Tajiceg yn ieithoedd lleiafrifol arwyddocaol. Islam yw'r brif grefydd, ac mae'r mwyafrif o Wsbeciaid yn Fwslimiaid Sunni.
Yr ymsefydlwyr cyntaf a gofnodwyd yn yr Wsbecistan fodern oedd nomadiaid Dwyrain Iran, a elwir yn Scythiaid, a sefydlodd deyrnasoedd yn Khwarazm, Bactria, a Sogdia yn yr 8-6g CC, yn ogystal â Fergana a Margiana yn y 3g CC – 6g OC.[1] Ymgorfforwyd yr ardal yn yr Ymerodraeth Achaemenaidd ac, a chafwyd cyfnod o gael ei rheoli gan Deyrnas Greco-Bactria ac yn ddiweddarach gan yr Ymerodraeth Sasanaidd, hyd at goncwest Mwslimaidd Persia yn y 7g. Trodd y rhan fwyaf o'r bobl at Islam. Yn ystod y cyfnod hwn, dechreuodd dinasoedd dyfu'n gyfoethog o Ffordd y Sidan, a daeth yn ganolfan i'r Oes Aur Islamaidd.
Dinistriwyd y llinach Khwarazmaidd leol gan oresgyniad Mongol yn y 13g a dilynwyd hyn gan Ymerodraeth Timurid yn y 14g. Ei phrifddinas oedd Samarcand, a ddaeth yn ganolfan wyddoniaeth o dan reolaeth Ulugh Beg a sefydlu'r Dadeni Timurid. Gorchfygwyd tiriogaethau y llinach Timurid gan Wsbeciaid Shaybanid yn y 16g.
Ymgorfforwyd Canol Asia yn raddol i Ymerodraeth Rwsia yn ystod y 19g, gyda Tashkent yn dod yn ganolfan wleidyddol Twrcistan Rwsia. Ym 1924, daeth Gweriniaeth Sofietaidd Sosialaidd Wsbecistan yn un o weriniaethau'r Undeb Sofietaidd. Datganodd annibyniaeth fel 'Gweriniaeth Wsbecistan' yn 1991.
Mae Wsbecistan yn dalaith seciwlar, gyda llywodraeth gyfansoddiadol lled-arlywyddol. Mae Wsbecistan yn cynnwys 12 rhanbarth (vilayat), Dinas Tashkent, ac un weriniaeth ymreolaethol, Karakalpakstan. Disgrifiwyd y wlad gan sawl sefydliad anllywodraethol fel "gwladwriaeth awdurdodaidd gyda hawliau sifil cyfyngedig". Er hyn, cafwyd diwygiadau cymdeithasol a rheolaethol sylweddol o dan ail arlywydd Wsbecistan, sef Shavkat Mirziyoyev, yn dilyn marwolaeth yr arlywydd cyntaf, Islam Karimov. Oherwydd y diwygiadau hyn, mae'r berthynas â gwledydd cyfagos Cirgistan, Tajikistan, ac Affganistan wedi gwella'n sylweddol.[2][3][4] Canfu adroddiad gan y Cenhedloedd Unedig yn 2020 lawer o gynnydd tuag at gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig.[5]
|date=
(help)