Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Logo'r Coleg
Sefydlwyd 2011
Math Cyhoeddus
Canghellor Dr Haydn Edwards (Cadeirydd)
Lleoliad Caerfyrddin, Baner Cymru Cymru
Tadogaethau Prifysgol Cymru
Gwefan http://www.colegcymraeg.ac.uk/
Graff cynnydd myfyrwyr sy'n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg; hyd at 2015.[1]

Mewn partneriaeth â phrifysgolion Cymru, mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn darparu addysg uwch ar gyfer myfyrwyr drwy gyfrwng y Gymraeg.[2] Nod y coleg ffederal hwn yw cynyddu nifer y myfyrwyr sy'n astudio cyrsiau cyfrwng Cymraeg a sicrhau bod y gefnogaeth ar gyfer y myfyrwyr hynny, ansawdd yr addysg, a phrofiadau astudio’r myfyrwyr, o’r safon uchaf. Erbyn Tachwedd 2015 roedd y Coleg yn cyflogi 115 o ddarlithwyr.[3] Prif Weithredwr y Coleg yw Dr Ioan Matthews a'i Gofrestrydd yw Dr Dafydd Trystan.

Sefydlwyd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn 2011 i weithio gyda phrifysgolion Cymru, er mwyn datblygu cyrsiau ac adnoddau cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr. Nid oes gan y Coleg ei gampws ei hun, ond mae’n gweithio trwy nifer o 'ganghennau' ar draws y prifysgolion yng Nghymru.[4]

Nod y canghennau yw cefnogi gwaith y Coleg a gweithredu fel pwynt cyswllt lleol i fyfyrwyr. Mae’r dewis o gyrsiau cyfrwng Cymraeg a gynigir wedi tyfu'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Erbyn hyn mae dros 500 o wahanol raddau ar gael i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg, ynghyd â 150 o ysgoloriaethau israddedig a ddyfernir i fyfyrwyr bob blwyddyn. Dyma’r tro cyntaf i unrhyw gorff fynd ati i gynllunio cyrsiau gradd cyfrwng Cymraeg yn genedlaethol ar gyfer myfyrwyr.

Ceisia'r Coleg roi mwy o gyfleoedd astudio i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg, hyfforddi darlithwyr cyfrwng Cymraeg newydd, datblygu modiwlau ac adnoddau o’r radd flaenaf i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg ac ariannu ysgoloriaethau israddedig ac ôl-raddedigion.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae modiwlau sy'n cael eu cynnig ar yr un pryd mewn mwy nag un brifysgol wedi dod yn fwy amlwg, gyda nifer o enghreifftiau llwyddiannus ym meysydd y Gwyddorau Amgylcheddol, y Diwydiannau Creadigol, y Gyfraith, Cerddoriaeth, Hanes ac Ieithoedd Modern Ewropeaidd.

  1. Cyfri Trydar y Coleg Cymraeg; adalwyd 10 Tachwedd, 2015
  2. "Newyddion", Coleg Cymraeg: Pum swydd ddarlithio (BBC Cymru), http://www.bbc.co.uk/newyddion/21451614, adalwyd 30 Tachwedd 2010
  3. Cyfri Trydar y Coleg Cymraeg; adalwyd 10 Tachwedd, 2015
  4. "Adroddiad yr Athro Robin Williams ar gyfer model Coleg Ffederal", Addysg a Sgiliau (Llywodraeth Cymru), http://wales.gov.uk/topics/educationandskills/publications/reports/colegffederal/?lang=cy, adalwyd 30 Tachwedd 2010

Developed by StudentB