Enghraifft o'r canlynol | band |
---|---|
Dod i'r brig | 1960s |
Dechrau/Sefydlu | 1965 |
Genre | cerddoriaeth boblogaidd, Cerddoriaeth pop a roc Cymreig, Canu gwerin |
Grŵp gitâr a canu harmoni clòs oedd y Cwiltiaid. Roeddent yn rhan o don pop Cymraeg ysgafn yr 1960au canol. Roeddent yn canu caneuon gwerin a gwreiddiol. Roeddent yn hanu o ardal Banc Siôn Cwilt ger Talgarreg a Synod Inn yng Ngheredigion. Oddi ar hynny y dewiswyd yr enw 'Y Cwiltiaid'.[1]
Sefydlwyd y Cwiltiaid yn 1965 gan y tri aelod oedd yn aelodau o Gapel Undodaidd Llwydrhydowen yn Mhontsiân. Perfformio mewn cyngherddau Nadolig. Ysbrydolwyd y tri ffrind gan y poblogrwydd mewn pop Cymraeg ysgafn yr 1960au canol gan grwpiau fel Hogia Llandegai, Hogia'r Wyddfa gan ddechrau drwy ddynwared caneuon y Beatles.[1]