Status Civitatis Vaticanae (Lladin)
Stato della Città del Vaticano (Eidaleg) | |
Math | gwladwriaeth sofran, dinas-wladwriaeth, clofan, gwlad dirgaeedig, atyniad twristaidd, un o wledydd môr y canoldir, gwlad, religious complex, institutional complex, ardal drefol, cyrchfan i dwristiaid, confessional state, sacerdotal state |
---|---|
Enwyd ar ôl | Vatican Hill |
Poblogaeth | 764 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Inno e Marcia Pontificale |
Pennaeth llywodraeth | Fernando Vérgez Alzaga |
Cylchfa amser | CET, UTC+01:00, Europe/Vatican |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Eidaleg, Ffrangeg, Lladin |
Daearyddiaeth | |
Arwynebedd | 0.49 km² |
Yn ffinio gyda | yr Eidal, yr Undeb Ewropeaidd |
Cyfesurynnau | 41.904°N 12.453°E |
Cod post | 00120 |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Gwladwriaeth Dinas y Fatican |
Corff deddfwriaethol | Comisiwn Pontifficaidd Dinas y Fatican |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | pab |
Pennaeth y wladwriaeth | Pab Ffransis |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Llywydd y Comisiwn Pontifficaidd |
Pennaeth y Llywodraeth | Fernando Vérgez Alzaga |
Perchnogaeth | Esgobaeth y Pab |
Statws treftadaeth | Safle Treftadaeth y Byd |
Manylion | |
Arian | Ewro |
Gwladwriaeth Dinas y Fatican neu'r Fatican yw gwlad annibynnol leia'r byd a phencadlys yr Eglwys Gatholig. Mae wedi ei lleoli yng nghanol dinas Rhufain yn yr Eidal a'r Pab sydd yn ei llywodraethu. Mae gan y ddinas-wladwriaeth hon boblogaeth o tua 764 (26 Mehefin 2023)[1], ac arwynebedd o ddim ond 44 hectar (110 erw), a phoblogaeth o tua 1000.[2] Mae hyn yn ei gwneud yn wladwriaeth leiaf y byd, o ran arwynebedd a phoblogaeth.
Saif yn annibynnol o'r Eidal drwy Gytundeb Lateran (1929), ac mae'n diriogaeth benodol o dan "berchnogaeth lawn, goruchafiaeth unigryw, ac awdurdod ac awdurdodaeth sofran" Esgobaeth y Pab.
Mae'n wladwriaeth eglwysig ac yn frenhiniaeth-sacerdotal sef math o ddemocratiaeth a reolir gan y pab sy'n esgob Rhufain ac yn bennaeth yr Eglwys Gatholig.[2][3] Swyddogion y wladwriaethyw ei chlerigwyr Catholig, sydd o genedligrwydd amrywiol, rhyngwladol. Ar ôl Pabaeth Avignon (1309 – 1437),[4] mae'r pabau wedi preswylio'n bennaf yn y Palas Apostolaidd o fewn yr hyn sydd bellach yn Ddinas y Fatican, er eu bod weithiau'n byw yn lle hynny ym Mhalas Quirinal yn Rhufain neu fan arall.
Mae'r Babaeth (Saesneg: Holy See) yn dyddio'n ôl i Gristnogaeth Gynnar a dyma brif Babaeth yr Eglwys Gatholig, sydd â thua 1.329 miliwn o aelodau drwy'r byd, sy'n Gristnogion Catholig ac sydd wedi eu bedyddio.
Daeth gwladwriaeth annibynnol Dinas y Fatican i fodolaeth ar 11 Chwefror 1929 drwy Gytundeb Lateran rhwng yr Esgobaeth a'r Eidal, a'i disgrifiodd fel creadigaeth newydd,[5] nid fel aelod o Daleithiau'r Babaeth (756-1870), a oedd wedi cwmpasu llawer o ganol yr Eidal cyn hynny.
O fewn Dinas y Fatican saif adeiladau crefyddol a diwylliannol fel Basilica Sant Pedr, Capel Sistine, ac Amgueddfeydd y Fatican. Maent yn cynnwys rhai o baentiadau a cherfluniau enwocaf a mwyaf gwerthfawry byd. Canolbwynt y Fatican yw Basilica Sant Pedr, sydd yn ôl traddodiad wedi ei hadeiladu dros y fan lle claddwyd Sant Pedr. Cefnogir economi unigryw Dinas y Fatican yn ariannol gan roddion gan y ffyddloniaid, trwy werthu cofroddion, drwy dâl mynediad i'r amgueddfeydd, a thrwy werthu cyhoeddiadau.