Enghraifft o'r canlynol | byddin |
---|---|
Daeth i ben | 25 Chwefror 1946 |
Rhan o | Soviet Russia Armed Forces, Soviet Armed Forces |
Dechrau/Sefydlu | 23 Chwefror 1918 |
Rhagflaenwyd gan | Russian Revolution Army |
Olynwyd gan | Soviet Army |
Sylfaenydd | Joseff Stalin, Nikolai Podvoisky, Vladimir Lenin |
Rhagflaenydd | Red Guards |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Y Fyddin Goch (Rwseg: Рабоче-крестьянская Красная армия, Rabotsje-krestjanskaja Krasnaja armieja, Byddin Goch y Gweithwyr a'r Ffermwyr) oedd yr enw a ddefnyddid am fyddin yr Undeb Sofietaidd.
Yn swyddogol, ffurfiwyd y Fyddin Goch ar 23 Chwefror 1918, fel gwarchodlu i blaid y Bolsieficiaid. Ystyrir mai Leon Trotski a'i ffurfiodd. Wedi'r gwrthryfel, daeth yn fyddin y wladwriaeth.
Yn 1920 daeth Michail Tuchatsievski yn gadlywydd arni, swydd a ddaliodd hyd 1937. Y flwyddyn honno, dienyddiwyd ef a llawer o uchel-swyddogion eraill gan yr NKVD ar orchymyn Stalin. Yn 1941, ymosododd yr Almaen ar yr Undeb Sofietaidd, ac yn y misoedd cyntaf dioddefodd y Fyddin Goch golledion enfawr, ac fe'i gyrrwyd yn ôl bron hyd Moscow. Yn raddol, dechreuodd y Fyddin Goch ad-ennill tir, ac enillodd fuddugoliaethau allweddol ym Mrwydr Stalingrad a Brwydr Kursk. Dan gadfridogion fel Georgi Zhukov gyrrwyd yr Almaenwyr yn ôl tua'r gorllewin, ac yn 1945, cipiodd y Fyddin Goch ddinas Berlin.