Y Gwyddonydd

Y Gwyddonydd
Enghraifft o'r canlynolcyfnodolyn, cylchgrawn Edit this on Wikidata
CyhoeddwrGwasg Prifysgol Cymru Edit this on Wikidata
Rhan oCylchgronau Cymru Ar-lein Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddiMawrth 1963 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1963 Edit this on Wikidata
Lleoliad cyhoeddiCaerdydd Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://welshjournals.llgc.org.uk/browse/listissues/llgc-id:1394134 Edit this on Wikidata


Erthygl am gylchgrawn yw hon. Gweler hefyd Gwyddonydd.

Cylchgrawn Cymraeg oedd Y Gwyddonydd yn cynnwys erthyglau, adolygiadau ac eitemau newyddion ar bynciau gwyddonol. Cafodd ei gyhoeddi rhwng 1963 a 1996 gan Wasg Prifysgol Cymru.

Ymddangosodd y cyfnodolyn chwarterol Y Gwyddonydd am y tro cyntaf ar Ddydd Gŵyl Dewi 1963, gyda chyhoeddiadau cyson hyd at 1996. Yr Athro Glyn O Phillips oedd y golygydd o'r rhifyn cyntaf yn 1963 hyd at y rhifyn olaf, yn 1993. "Fe'i sefydlwyd er mwyn dangos fod ymdrin â pynciau gwyddonol a thechnolegol o bob math drwy gyfrwng y Gymraeg yn gwbwl bosibl" yn ôl Dr Hefin Jones.[1] Nifwl troellog trobwll yng nghytser Canes Venatica oedd y llun ar glawr y rhifyn cyntaf.

Mae'r cylchgrawn wedi ei ddigido fel rhan o brosiect Cylchgronau Cymru Ar-lein gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

  1. Fideo ar You Tube; adalwyd 3 Chwefror 2015

Developed by StudentB