Adeilad y Knesset. | |
Enghraifft o'r canlynol | deddfwrfa unsiambr |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 14 Chwefror 1949 |
Yn cynnwys | Aelod o'r Knesset |
Pennaeth y sefydliad | Speaker of the Knesset |
Pencadlys | Knesset building |
Enw brodorol | הכנסת |
Gwladwriaeth | Israel |
Gwefan | https://main.knesset.gov.il/en, https://main.knesset.gov.il, https://main.knesset.gov.il/ru, https://main.knesset.gov.il/ar |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Deddfwrfa unsiambrog Israel yw'r Knesset (Hebraeg: הַכְּנֶסֶת [haˈkneset] trawslythreniad: HaKnesset; sef "cynulliad"). Yn system wleidyddol Israel, y Knesset yw awdurdod goruchaf y wlad a chanddi sofraniaeth seneddol, ond yn ddarostyngedig i rwystrau a gwrthbwysau'r farnwriaeth. Lleolir ei adeilad yn ardal Givat Ram yng nghanol Jeriwsalem, prifddinas Israel.
Etholir aelodau'r Knesset gan y bobl, ac mae'r Knesset yn ei dro yn ethol yr arlywydd, a'r prif weinidog (a benodir yna yn ffurfiol gan yr arlywydd), ac yn goruchwylio adran weithredol y llywodraeth—hynny yw, y cabinet a ffurfir gan y prif weinidog. Y Knesset hefyd sydd yn pasio holl ddeddfau'r wlad, fel arfer ar gynnig polisïau'r cabinet.
Etholir 120 o aelodau i'r Knesset bob pedair blynedd trwy system cynrychiolaeth gyfrannol. Ni rhennir y wlad yn wahanol etholaethau; yn hytrach, mae etholwyr yn pleidleisio dros bleidiau neu grwpiau etholiadol ar restrau hirion o ymgeiswyr, ac mae canran y bleidlais genedlaethol yn cyfateb i'r gyfran o seddi a enillir gan blaid. Mae'r drefn hon yn sicrhau cynrychiolaeth i nifer fawr o bleidiau, ac o ganlyniad mae llywodraethau clymblaid yn gyffredin.
Yn sgil cadarnhau'r Ddeddf Dros Dro gan y Cynulliad Etholedig—a etholwyd yn Ionawr 1949 i baratoi cyfansoddiad ar gyfer y wladwriaeth newydd—ar 16 Chwefror 1949, daeth y cynulliad hwnnw yn y Knesset Cyntaf. Nid oes gan Israel gyfansoddiad cyfundrefnol ffurfiol, ond rhoddir sail gyfreithiol i'r Knesset, tiriogaeth y wlad, yr arlywydd, a'r llywodraeth gan gyfres o gyfreithiau sylfaenol a basiwyd yn y cyfnod 1958–68. Ni seiliwyd y siambr newydd ar batrwm system Westminster; fodd bynnag, mae nifer o'i rheolau a threfniadau yn debyg i Dŷ'r Cyffredin, er enghraifft y breintiau a roddir i Arweinydd yr Wrthblaid.[1]