Y Llynnoedd Mawr

Y Llynnoedd Mawr
Delwedd:Great Lakes, No Clouds (4968915002) Brighter.jpg, ISS-43 the Great Lakes of North America.jpg
Mathgroup of interconnected lakes Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd208,610 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau45.8°N 84°W Edit this on Wikidata
Map

Pum llyn mawr dŵr croyw ar y ffin rhwng yr Unol Daleithiau a Chanada yw'r Llynnoedd Mawr sy'n cysylltu â Chefnfor yr Iwerydd trwy Afon Sant Lawrence. Yn hydrolegol, mae pedwar llyn, oherwydd mae llynnoedd Michigan a Huron yn ymuno yn y Straits of Mackinac. Mae Dyfrffordd y Llynnoedd Mawr yn gwneud teithio ar ddŵr rhwng y llynnoedd yn bosib.

Dyma'r llynnoedd unigol:

Y Llynnoedd Mawr yw'r grŵp mwyaf o lynnoedd dŵr croyw ar y Ddaear, yn ôl cyfanswm arwynebedd, a'r ail-fwyaf yn ôl cyfanswm cyfaint, sef 21% o ddŵr croyw'r Ddaear, yn ôl cyfaint.[1][2][3] Cyfanswm yr arwynebedd yw 94,250 milltir sgwâr (244,106 km2), a chyfanswm y cyfaint (wedi'i fesur ar y datwm dŵr isel) yw 5,439 milltir giwbig (22,671 km3), ychydig yn llai na chyfaint Llyn Baikal (5,666 cu mi neu 23,615 km3, 22–23% o ddŵr croyw wyneb y byd).[4] Oherwydd fod gan y llynnoedd nodweddion tebyg i fôr, megis tonnau cryf, gwyntoedd parhaus, ceryntau cryf, dyfnderoedd mawr, a gorwelion pell, mae'r pum Llynnoedd Mawr wedi cael eu galw'n "foroedd mewndirol" ers cryn amser.[5][6][7][8] Yn ôl ei arwynebedd, Llyn Superior yw'r ail lyn fwyaf yn y byd a'r llyn dŵr croyw mwyaf. Llyn Michigan yw'r llyn mwyaf sydd o fewn un wlad yn gyfan gwbl.[9][10][11][12]

Ffurfiwyd y Llynnoedd Mawr ar ddiwedd y Cyfnod Rhewlifol Olaf, tua 14,000 CP (o flynyddoedd yn ôl), wrth i haenau iâ oedd yn cilio ddatgelu'r basnau a gerfiwyd yn y tir, a oedd wedyn yn llenwi â dŵr tawdd. Mae'r llynnoedd wedi bod yn bwysig o ran teithio, ymfudo, masnach a physgota, gan wasanaethu fel cynefin i lawer o rywogaethau dyfrol mewn rhanbarth sydd â llawer o fioamrywiaeth. Gelwir yr ardal ehangach yn "rhanbarth y Llynnoedd Mawr".[13]

Lleoliad
  1. "Great Lakes". US Epa.gov. 28 Mehefin 2006. Cyrchwyd 19 Gorffennaf 2011.
  2. "LUHNA Chapter 6: Historical Landcover Changes in the Great Lakes Region". Biology.usgs.gov. November 20, 2003. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 Ionawr 2012. Cyrchwyd 19 Chwefror 2011.
  3. Ghassemi, Fereidoun (2007). Inter-basin water transfer. Cambridge: Cambridge University Press. ISBN 978-0-521-86969-0.
  4. "Great Lakes: Basic Information: Physical Facts". United States Environmental Protection Agency (EPA). 25 Mai 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar May 29, 2012. Cyrchwyd November 9, 2011.
  5. "The Top Ten: The Ten Largest Lakes of the World". infoplease.com.
  6. Rosenberg, Matt. "Largest Lakes in the World by Area, Volume and Depth". About.com Education. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-02-17. Cyrchwyd 2021-05-18.
  7. Hough, Jack (1970) [1763]. "Great Lakes". The Encyclopædia Britannica. 10 (arg. Commemorative Edition for Expo'70). Chicago: William Benton. t. 774. ISBN 978-0-85229-135-1.
  8. "Large Lakes of the World". factmonster.com.
  9. "The Top Ten: The Ten Largest Lakes of the World". infoplease.com.
  10. Rosenberg, Matt. "Largest Lakes in the World by Area, Volume and Depth". About.com Education. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-02-17. Cyrchwyd 2021-05-18.
  11. Hough, Jack (1970) [1763]. "Great Lakes". The Encyclopædia Britannica. 10 (arg. Commemorative Edition for Expo'70). Chicago: William Benton. t. 774. ISBN 978-0-85229-135-1.
  12. "Large Lakes of the World". factmonster.com.
  13. Great Lakes Archifwyd 2020-02-20 yn y Peiriant Wayback.. America 2050. Adalwyd 7 Rhagfyr 2016.

Developed by StudentB