Enghraifft o'r canlynol | goresgyniad |
---|---|
Dechreuwyd | 1067 |
Daeth i ben | 1165 |
Cyrhaeddodd milwyr o Normandi Gymru yn 1051, pan ddaeth Ralff o Mantes (nai edward Gyffeswr) yn iarll Henffordd, gan sefydlu rhan o'i fyddin ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr.[1] Olynydd brenhinoedd Sacsonaidd oedd Gwilym Goncwerwr, ac felly nid oedd ganddo fryd ar feddiannu Cymru, a phwrpas amddiffynnol oedd i'w gtynlluniau yn gosod ei fyddin ar y ffin hwn.
O achos cwymp Gruffudd ap Llywelyn ym 1063 doedd Cymru ddim yn wlad gref pan gyrhaeddodd Gwilym Loegr a meddiannu coron y deyrnas honno yn 1066 ar ôl ennill Brwydr Hastings. Sefydlodd iarllaethau yng Nghaer (iarllaeth Caer, Amwythig (iarllaeth Amwythig) a Henffordd (iarllaeth Henffordd). Ond wedi peth amser, brwydrodd yr ieirll hyn yn erbyn y Cymry, gan ehangu eu tir ac adeiladu cestyll. O ganlyniad daeth brenhiniaeth Gwent i ben ym 1086 ac aeth tiriogaeth teyrnas Gwynedd yn llai a llai. Ceir y cyfeiriad cyntaf at y Normaniaid mewn llawysgrifau Cymreig yn 1072 pan laddwyd Maredudd ab Owain o Ddeheubarth gan y Normaniaid.
Er mwyn cadw'r heddwch, cafodd rhai o arweinwyr y Cymry eu cydnabod gan y brenin newydd: Rhys ap Tewdwr yn Neheubarth ac Iestyn ap Gwrgant ym Morgannwg, ond newidiodd y sefyllfa ar ôl i Wilym farw ym 1087. Cipiwyd Morgannwg a Brycheiniog ac aeth Roger o Montgomery, iarll Amwythig, i dde Dyfed lle cododd gastell Penfro.
Bu Gruffudd ap Cynan, brenin Gwynedd yn llwyddiannus am gyfnod yn ymladd yn erbyn y Normaniaid, ac yr un fath Rhys ap Tewdwr yn Neheubarth.