Y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru

Y Rhyfel Byd Cyntaf Yng Nghymru
Dyddiad 28 Gorffennaf, 191411 Tachwedd, 1918
Lleoliad Ewrop, y Cefnfor Tawel, De Ddwyrain Asia, y Dwyrain Canol, Môr y Canoldir, Tseina ac Affrica
Canlyniad Buddugoliaeth i'r Cynghreiriaid.
Cydryfelwyr
Cynghreiriaid
Pwerau Canolog
Anafusion a cholledion
Meirw milwrol:
5,525,000
Meirw dinesig:
4,000,000
Cyfanswm y meirw:
18,356,500
Meirw milwrol:
4,386,000
Meirw dinesig:
8,388,000
Cyfanswm y meirw
12,774,000
Adnoddau Dysgu
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma
Llyfrgell Genedlaethol Cymru

CBAC
*Cymru a'i rol yn y Rhyfel Mawr
HWB
*Trosolwg byr o’r Rhyfel Byd Cyntaf
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg

Gweler Y Rhyfel Byd Cyntaf am y Rhyfel Byd Cyntaf yn gyffredinol

Cafodd y Rhyfel Byd Cyntaf (28 Gorffennaf 1914 - 11 Tachwedd 1918) effaith fawr ar hanes Cymru yn ystod yr ugeinfed ganrif.  

Cyfrannodd Cymru yn sylweddol at y Rhyfel Byd Cyntaf mewn sawl ffordd. Er enghraifft, o safbwynt milwyr, arweinyddiaeth y rhyfel, ac o ran y gweithlu a'r economi. Gwirfoddolodd llawer iawn o Gymry i ymladd yn y rhyfel.  Yn nhermau canrannol, recriwtiwyd mwy o Gymry na Saeson, Albanwyr neu Wyddelod, ac ymladdodd milwyr o Gymru yn rhai o frwydrau mwyaf ffyrnig y rhyfel megis y Somme, Coed Mametz, Ypres a Brwydr Passchendaele.

Glo rhydd o Gymru oedd yn gyrru’r Llynges Brydeinig ac fe wnaeth gweithwyr o Gymru a diwydiant Cymru gyfraniad enfawr at ymdrech y rhyfel.  Arweiniwyd yr ymgyrch ryfel gan y Cymro, David Lloyd George, y Prif Weinidog rhwng 1916 a 1918.  Penderfynodd Lloyd George ddilyn polisi rhyfel diarbed wrth ymladd y rhyfel. Golygai hyn bod pawb yn y gymdeithas yn gorfod cyfrannu tuag yr ymdrech ryfel mewn ryw ffordd neu'i gilydd, naill ai ar y Ffrynt Cartref neu drwy ymladd. Bu ei ddawn fel arweinydd ac areithiwr oedd yn medru codi morâl ac ysbryd y bobl yn elfen allweddol ym muddugoliaeth Prydain.

Effeithiwyd ar bob agwedd ar gymdeithas, economi a diwylliant Cymru wrth i’r wlad golli cenhedlaeth gyfan o’i phobl, gyda’r niferoedd a gollodd eu bywydau - yn ddynion a merched - yn cyrraedd tua 40,000 yn y Rhyfel Mawr.[1]

  1. "Cymru a'i rol yn y Rhyfel Mawr". CBAC.

Developed by StudentB