Math | tref, cyrchfan lan môr, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 25,149, 27,060 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Ddinbych |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.3212°N 3.4802°W |
Cod SYG | W04000173 |
Cod OS | SJ015815 |
Cod post | LL18 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Gareth Davies (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Gill German (Llafur) |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Tref glan môr a chymuned yn Sir Ddinbych, Cymru, yw Y Rhyl. Roedd cynt yng Nghlwyd, a chyn hynny yn Sir y Fflint. Fe'i lleolir i'r dwyrain o'r Foryd, aber Afon Clwyd. Ar hyd yr arfordir i'r gorllewin mae Bae Cinmel a 4 milltir i'r dwyrain mae Prestatyn. 2 filltir i'r de mae tref Rhuddlan. Ei phoblogaeth yw 24,889 (Cyfrifiad 2001).
Mae gan y Rhyl un o'r traethau gorau yn y gogledd[angen ffynhonnell] sy'n denu ymwelwyr lu yn yr haf i ymdrochi a mwynhau'r "Tywod Euraidd". Mae'r Prom llydan yn enwog am ei barlwrs gemau, neuaddau bingo a siopau cofroddion rhad. Yr atyniad mawr heddiw yw Canolfan yr Haul a'i thŵr trawiadol. Ar ben gorllewinol y prom ceir y ffair hwyl a'i holwynion a big dipper. Gerllaw mae'r Llyn Morwrol (Marine Lake) a'r Trên Bach i blant sy'n rhedeg oddi amgylch iddo. Yn harbwr Y Foryd lle rhed Afon Clwyd i'r môr ceir nifer o gychod pysgota a hamdden a gorsaf y bad achub. Y brif ardal siopio yw'r Stryd Fawr, sy'n ymestyn rhwng y prom a'r orsaf drenau.