Y Tywysog Andrew | |||||
---|---|---|---|---|---|
Dug Caerefrog | |||||
Andrew yn 2017 | |||||
Ganwyd | Y Tywysog Andrew o Caeredin 19 Chwefror 1960 Palas Buckingham, Llundain, Lloegr | ||||
Priod | Sarah Ferguson (pr. 1986; ysg. 1996) | ||||
Plant |
| ||||
| |||||
Teulu | Windsor | ||||
Tad | Y Tywysog Philip, Dug Caeredin | ||||
Mam | Elisabeth II |
Y Tywysog Andrew, Dug Caerefrog (Andrew Albert Christian Edward; ganwyd 19 Chwefror 1960) yw ail fab a thrydydd plentyn Elisabeth II, brenhines y Deyrnas Unedig a Thywysog Philip, Dug Caeredin a'r 3ydd yn yr olyniaeth am goron y Deyrnas Unedig.
Mae'n adnabyddus am ei wasanaeth milwrol a'r rhan a chwaraeodd yn Rhyfel y Falklands, am ei ffling efo Koo Stark yn y 1970au ac am ei gysylltiad gyda'r paedoffil Jeffrey Epstein yn y 2010au. Ei lysenw yw "Randy Andy"[1] Chwalodd priodas Andrew â Sarah Ferguson, digwyddiad a gafodd cryn dipyn o sylw gan y papurau newyddion tabloid. Arferai weithio fel Cynrychiolydd Arbennig y Deyrnas Unedig o ran Buddsoddiad a Masnach Rhyngwladol, hyd at 2011 ac ar 20 Tachwedd 2019 dywedodd na fyddai'n ymgymryd a dyletswyddau brenhinol yn rhagor.[2]
Mae hefyd yn adnabyddus am sawl sgandal, gan gynnwys y cyhuddiad ei fod yn gysylltiedig â'r pedoffil Jeffrey Epstein. Honir iddo gael rhyw gyda merch a oedd dan oed, Virginia Roberts ar 10 Mawrth 2001. Yn Nhachwedd 2019 ymddangosodd ar y rhaglen Newsnight gan wadu'r honiadau hyn.[3] Ar 13 Ionawr 2022, collodd y Tywysog ei teitlau brenhinol seremoniol.[4]