Y Tywysog Edward, Dug Caeredin

Y Tywysog Edward
Dug Caeredin
Edward yn 2022
GanwydEdward Anthony Richard Louis
(1964-03-10) 10 Mawrth 1964 (60 oed)
Palas Buckingham, Llundain, Lloegr
PriodSophie Rhys-Jones (pr. 1999)
Plant
  • Y Fonesig Louise Windsor
  • James, Iarll Wessex
TeuluWindsor
TadY Tywysog Philip
MamElisabeth II

Brawd ieuengaf Siarl III, brenin y Deyrnas Unedig, yw Edward Anthony Richard Louis, Dug Caeredin (ganwyd 10 Mawrth 1964).

Cafodd ei eni ym Mhalas Buckingham, yn fab i'r Frenhines Elisabeth II a'i gŵr y Tywysog Philip, Dug Caeredin. Priododd Sophie Rhys-Jones ar 19 Mehefin 1999, ac ar y diwrnod hwnnw rhoddwyd y teitl Iarll Wessex iddo. Gwnaed ef yn Ddug Caeredin ar ei ben-blwydd yn 59 oed yn 2023.

Mae'n is-Noddwr Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad.


Developed by StudentB