Y meddwl

Y meddwl
Enghraifft o'r canlynolterm mewn seicoleg, type of property Edit this on Wikidata
Mathgwrthrych haniaethol Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebinstinct Edit this on Wikidata
Enw brodorolHiş Edit this on Wikidata
System ysgrifennuyr wyddor Ladin Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Darlun gan Robert Fludd, Utriusque cosmi maioris scilicet et minoris […] historia, tomus II (1619), tractatus I, sectio I, liber X, De triplici animae in corpore visione.

Y meddwl yw'r broses a'r fan lle mae bodau dynol a rhai anifeiliaid eraill yn ymwneud â deallusrwydd, ymwybyddiaeth, meddyliau, cof, emosiwn, yr ewyllys a'r dychymyg. Mae hefyd yn ymwneud â'r prosesau o resymu a gall hyd yn oed weithredu pan rydym yn anymwybodol neu'n cysgu.

Ceir damcaniaethau rif y gwlith amdano, ei fodolaeth a sut mae'n gweithio. Ymhlith y cyntaf i'w drafod y mae, Zoroaster, Gotama Bwdha, Platon, Aristotlys, Adi Shankara ac athronwyr eraill o Wlad Groeg, India ac yna'r gwledydd Islamaidd.

Roedd llawer o'r damcaniaethau cyn hynny yn deillio o weithiau crefyddol ac yn ymwneud â'r berthynas rhwng y meddwl â'r enaid.

Mae pa bridoleddau ddylid eu cynnwys o dan y term "y mewddwl" yn cael eu trafod yn aml. Dywed rhai seicolegwyr mai dim ond ffwythiannau deallusol uchaf ddylid cael eu hystyried, yn enwedig rheswm a'r gallu i gofio. Mae nhw'n gwrthod priodoleddau megis cariad neu serch, casineb, ofn a hapusrwydd gan ddweud mai emosiynau cyntefig ydy'r rhain ac yn faes ar wahân i'r meddwl. Dywed eraill fod emosiwn a rheswm yn rhan o'r meddwl ac yn ddi-wahân, a'u bod o'r un anian a natur ac yn deillio o'r un lle.


Developed by StudentB