Rhyngrwyd | |
Cyfrifiadur Rhwydweithio cymdeithasol ar-lein |
System gysylltiedig o rwydweithiau cyfrifiadurol byd-eang, sydd ar gael i'r cyhoedd, yw'r rhyngrwyd ac sy'n gwasanaethu biliynau o ddefnyddwyr. Mae'n trosglwyddo amrywiaeth o ddata gan gynnwys lluniau, sain, fideo a thestun, ac yn cludo amrywiaeth o wybodaeth a gwasanaethau. Trosglwyddir y data hyn gyda'r safon Protocol Rhyngrwyd (IP). Y gwasanaethau mwyaf amlwg yn strwythur y rhyngrwyd yw'r we fyd-eang (WWW) ac e-bost, a hefyd gwasanaethau sgwrsio a throsglwyddo ffeiliau. Mae'r defnyddrwyd ('usenet' neu 'newsnet') hefyd yn bodoli ar y rhyngrwyd, ond nid mor boblogaidd bellach. Hyd at ddiwedd y 2000au roedd angen cyfrifiadur i gysylltu â'r rhyngrwyd, ond yna gwelwyd y cyfryngau traddodiadol i gyd yn cael eu hailbobi i gario rhan o'r rhyngrwyd e.e. y ffôn, systemau cerdd, ffilm a'r teledu. Gwelwyd hefyd cyhoeddwyr yn addasu ar gyfer y dechnoleg newydd er mwyn dosbarthu eu cynnyrch; yng Nghymru er enghraifft bu Gwasg y Lolfa'n flaenllaw iawn yn gwerthu e-lyfrau a Golwg360 yn bapur newydd digidol.
Nid yw'r rhyngrwyd a'r we fyd-eang yn gyfystyr. Casgliad o ddogfennau hyperdestun yw'r we, a defnyddir y rhyngrwyd (sy'n llawer mwy na'r we) i gael mynediad i'r dogfennau hyn.