Enghraifft o'r canlynol | sefydliad di-elw |
---|---|
Idioleg | cenedlaetholdeb Cymreig, annibyniaeth |
Dechrau/Sefydlu | 2014 |
Pencadlys | Caerdydd |
Gwefan | https://yes.cymru/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mudiad amhleidiol, Cymreig yw YesCymru a sefydlwyd ym Medi 2014, gyda'r nod o ennill annibyniaeth i Gymru er mwyn gwella’r ffordd mae’r wlad yn cael ei llywodraethu. Mae YesCymru yn credu mewn dinasyddiaeth gynhwysol, sy’n croesawu pob person – o ba gefndir bynnag – sy’n dewis gwneud Cymru yn gartref iddynt i fod yn ddinasyddion llawn o fewn Cymru.[1]
Ar 1 Medi 2014, wedi'u hysbrydoli gan refferendwm annibyniaeth yr Alban a oedd i'w chynnal ar 18 Medi, cynhaliwyd cyfarfod dros y we a oedd yn cynnwys Branwen Alaw, Hedd Gwynfor, Armon Gwilym ac Iestyn ap Rhobert i drafod cynnal rali yn Nghaerdydd i gefnogi annibyniaeth i'r Alban. Fe ymunodd Leon Russel a Siôn Jobbins gyda'r gwaith trefnu ac ar 13 Medi 2014 cynhaliwyd rali o flaen adeilad y Senedd dan y teitl 'Cymru'n cefnogi Ie - Ewch Amdani Alba'. Ddaeth cannoedd o bobl ynghyd.[2]
Ar 27 Medi 2014 cynhaliwyd cyfarfod cyntaf wedi'r rali i drafod ffurfio mudiad dros Annibyniaeth i Gymru yn Chapter, Caerdydd. Yn bresennol roedd: Armon Gwilym, Catrin Dafydd, Iestyn ap Rhobert, Branwen Alaw Evans, Colin Nosworthy, Osian Rhys, Emyr Gruffydd a chafwyd ymddiheuriad gan Hedd Gwynfor.
Cynhaliwyd yr ail ddigwyddiad o bwys ym mis Ebrill 2015, yn galw am Ymreolaeth i Gymru fis cyn yr etholiad cyffredinol.[3]