Math | heat transfer, energy transfer process |
---|---|
Rhan o | ffiseg |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ymbelydredd (Saesneg: radiation) yw'r broses pan fo egni yn teithio drwy'r gofod neu le gwag ac sydd, yn y diwedd, yn cael ei amsugno gan gorff neu ddefnydd arall. Mae'n digwydd, er enghraifft, mewn bom atomig, mewn adweithydd niwclear ac mewn gwastraff niwclear wrth iddo ddadfeilio. Ymbelydredd, hefyd, ydy'r term a roir i brosesau llai peryglus) megis tonnau radio, golau uwchfioled neu belydr-X. Yr hyn sy'n gyffredin rhwng y prosesau hyn i gyd ydy'r ffaith fod yma belydrau sy'n "ymbelydru" mewn llinell hollol syth o un lle i'r llall: o'r ffynhonnell i'r targed.
Mae'r broses o ddadfeilio yn digwydd yn gyfangwbwl ar hap; ni ellir rhagweld pa bryd y bydd unrhyw niwclews ansefydlog yn dadfeilio ac yn rhoi allan belydriad. Mae pob niclews yn dadfeilio'n gwbwl ddigymell ac yn ei amser ei hun. Gellir defnyddio Synhwyrydd Geiger-Müller i'w "clywed" yn clician yn afreolaidd ac ar hap.
Gellir peri i niwclysau sefydlog droi yn ansefydlog drwy ei pledu gyda niwtronau.
Caiff ymbelydredd ei fesur mewn Becquerelau ac fe'i dynodir gyda'r symbol Bq. Un Becquerel ydy un niwclews yn dadfeilio bob eiliad. O ganlyniad, mae cyfradd rifo o 60 rhifiad y funud (60 rh. y f.) = 1 Bq.
Fel y darganfu'r gwyddonydd Ernest Rutherford drwy arbrofion eitha syml, mae tri math o belydriad yn bodoli:
Gronyn alffa yw cnewyllyn atom Heliwm He2+, sef 2 proton a 2 niwtron. Mae ganddo fas eitha trwm, felly gall gael ei atal gan ddim byd amgenach na tudalen dennau o bapur.
Gronyn beta yw electron, positron sydd yn electron gyda gwefr positif, neu niwtrino. Gellir eu hatal efo haen denau o ffoil metel.
Gamma yw allyrriad o ffoton o ynni uchel – uwch na 1019 Hz (mewn amrediad o 10keV i 10MeV). Dydy ymbelydredd gamma ddim yn digwydd ar ei ben ei hun, ond mae'n digwydd gydag ymbelydredd alffa neu beta.