Enghraifft o'r canlynol | teyrnas, Undeb personol, retrospective label |
---|---|
Daeth i ben | 1242 |
Dechrau/Sefydlu | 1154 |
Olynydd | Teyrnas Ffrainc |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yr Ymerodraeth Angevin yw'r term diweddar a ddefnyddir ar gyfer y gwledydd a reolid yn y 12g a'r 13g gan y frenhinllin Angevin (Plantagenet). Roedd eu tiriogaethau yn y cyfnod yma yn ymestyn o Iwerddon hyd y Pyreneau ac yn cynnwys hanner Ffrainc, y cyfan o Loegr a rheolaeth ysbeidiol ar Iwerddon a Chymru.
Adeiladwyd yr ymerodraeth gan Harri II, trwy etifeddiaeth a phriodas yn bennaf. Derbyniodd ddugiaeth Normandi gan ei dad yn 1150, yna ar farwolaeth ei dad yn 1151, etifeddodd Anjou a Maine. Yn 1152 daeth yn ddug Aquitaine trwy briodi Eleanor o Aquitaine, yna yn 1154 etifeddodd gron Lloegr.
Ar farwolaeth Harri, etifeddwyd yr ymerodraeth gan ei fab Rhisiart I, yna ar farwolaeth Rhisiart heb blant, gan ei fab arall, John. Daeth yr ymerodraeth i ben pan orchfygwyd John gan Philip II, brenin Ffrainc yn 1204, gyda'r canlyniaid i'r Angeviniaid golli Normandi ac Anjou, gan eu gadael gyda Gasgwyn a Lloegr yn unig. Arweiniodd hyn at Ryfel Saintonge a'r Rhyfel Can Mlynedd rhwng Lloegr a Ffrainc.