Gwres, neu bŵer wedi'i dynnu o storfa wres y Ddaear ydy ynni geothermal. γη (neu geo) ydy'r gair Groeg am y Ddaear a θερμος (thermos) ydy'r gair am wres. Mae'r gwres hwn yn deillio o'r amser pan ffurfiwyd y Ddaear yn gyntaf filoedd o flynyddoedd yn ôl, oherwydd dadfeilio ymbelydrol rhai mwynau, gweithgarwch llosgfynyddoedd ac oherwydd egni solar yr haul wedi'i ddal yng nghrwst y blaned.
Weithiau mae'r pŵer hwn yn dod i'r wyneb: mewn llefydd fel Ynys yr Iâ er enghraifft. Arferid defnyddio'r stêm yma i folchi gan bobl mor bell yn ôl a Hen Oes y Cerrig ac yna gan y Rhufeiniaid. Erbyn heddiw, fodd bynnag, mae ynni neu bŵer geothermal yn cael ei gysylltu fwy fwy gyda dull o gynhesu adeiladau a gyda dull o droi'r stêm yn drydan drwy ddefnyddio twrbein. Roedd 11,700 megawatt (MW) o drydan yn cael ei gynhyrchu led led y byd yn 2013.[1] Yn ychwanegu at hyn, roedd 28 gigawatt o wres uniongyrchol yn ei le i gynhesu adeiladau, ar gyfer diwydiant ayb.[2]