Lleolir yr Amgueddfa Gelf Fetropolitan (Saesneg: Metropolitan Museum of Art neu the Met ar lafar) ar Fifth Avenue yn Ninas Efrog Newydd, UDA. Fe'i sefydlwyd ym 1870 ac agorodd i'r cyhoedd ar 20 Chwefror 1872.[1] Agorodd ar ei phrif safle presennol ger Central Park ym 1880.[1] Mae gan yr amgueddfa safle pellach, ar gyfer arddangos celf a phensaernïaeth canoloesol, o'r enw The Cloisters; agorodd hyn ym 1938.[2]
Bydd saffle newydd ar gyfer celf fodern a chyfoes o'r enw The Met Breuer yn agor ar 18 Mawrth 2016. Dyma hen adeilad Amgueddfa Gelf Americanaidd Whitney a gynlluniwyd gan y pensaer Marcel Breuer, a hyfforddwyd yn y Bauhaus, ym 1963.[3]