República Argentina | |
Arwyddair | Curiad eich Rhythm |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, gwlad, gwladwriaeth ffederal, cenedl, confessional state |
Enwyd ar ôl | arian |
Prifddinas | Buenos Aires |
Poblogaeth | 47,327,407 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Anthem Genedlaethol yr Ariannin |
Pennaeth llywodraeth | Javier Milei |
Cylchfa amser | amser yr Ariannin |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Sbaeneg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | America Ladin, Y gwedydd ABC, De America, De De America, America Sbaenig |
Gwlad | Yr Ariannin |
Arwynebedd | 2,780,400 ±1 km² |
Yn ffinio gyda | Bolifia, Brasil, Tsile, Paragwâi, Wrwgwái, y Deyrnas Unedig |
Cyfesurynnau | 34°S 64°W |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth yr Ariannin |
Corff deddfwriaethol | Cyngres Genedlaethol yr Ariannin |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd yr Ariannin |
Pennaeth y wladwriaeth | Javier Milei |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Arlywydd yr Ariannin |
Pennaeth y Llywodraeth | Javier Milei |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $487,227 million, $632,770 million |
Arian | ars |
Canran y diwaith | 8.9 ±0.1 canran |
Cyfartaledd plant | 2.322 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.842 |
Mae Gweriniaeth yr Ariannin (Sbaeneg: República Argentina ynganiad ) neu'r Ariannin yn wlad yn ne-ddwyrain De America. Mae'n gorwedd rhwng mynyddoedd yr Andes a rhan ddeheuol y Môr Iwerydd. Mae'n ffinio â Wrwgwái, Brasil, Paragwâi, Bolifia a Tsile. Sbaeneg yw'r iaith swyddogol. Mae'r enwau Sbaeneg a Chymraeg yn dod o'r Lladin argentum ‘arian’, metel gwerthfawr a anogodd yr ymgartrefu cynnar Ewropeaidd. Gelwir person a anwyd yn yr Ariannin yn "Archentwr". Dilynwyd y frwydr dros annibyniaeth (1810-1818) gan ryfel cartref estynedig a barhaodd tan 1861, gan arwain at ad-drefnu’r wlad fel ffederasiwn. Wedi hynny, mwynhaodd y wlad heddwch a sefydlogrwydd cymharol, gyda sawl ton o fewnfudo Ewropeaidd, yn bennaf Eidalwyr a Sbaenwyr, yn ail-lunio ei rhagolwg diwylliannol a demograffig yn radical. Mae gan 62.5% o'r boblogaeth dras Eidalaidd lawn neu rannol,[1][2] ac mae gan ddiwylliant yr Ariannin gysylltiadau sylweddol â diwylliant yr Eidal.
Cafwyd cynnydd sydyn mewn ffyniant a daeth yr Ariannin yn seithfed genedl gyfoethocaf y byd erbyn dechrau'r 20g.[3][4][5] Yn ôl Prosiect Ystadegau Hanesyddol Maddison, roedd gan yr Ariannin CMC go iawn ucha'r byd yn ystod 1895 a 1896, ac roedd yn gyson yn y deg uchaf cyn o leiaf 1920.[6][7] Yn y 2010au roedd yn 71fed yn y byd. Yn dilyn y Dirwasgiad Mawr yn y 1930au, disgynodd yr Ariannin i ansefydlogrwydd gwleidyddol a dirywiodd ei heconomi'n enbyd,[8] er iddi aros ymhlith y pymtheg gwlad gyfoethocaf am sawl degawd.[3]
Yn dilyn marwolaeth yr Arlywydd Juan Perón ym 1974, esgynnodd ei weddw a'i is-lywydd, Isabel Martínez de Perón, i'r arlywyddiaeth, cyn cael ei threchu ym 1976. Erlidiodd a llofruddiodd y junta milwrol canlynol filoedd o bobl gwleidyddol, gweithredwyr, a phobl asgell chwith yn y Rhyfel Brwnt, cyfnod o derfysgaeth wladol ac aflonyddwch sifil a barhaodd hyd nes etholwyd Raúl Alfonsín yn arlywydd ym 1983.
Se estima que en la actualidad, el 90% de la población argentina tiene alguna ascendencia europea y que al menos 25 millones están relacionados con algún inmigrante de Italia.
Argentina is thus not a "developing country". Uniquely, it achieved development and then lost it again.