Repubblica Italiana | |
Math | gwlad, gwladwriaeth sofran |
---|---|
Enwyd ar ôl | Italia |
Prifddinas | Rhufain |
Poblogaeth | 58,850,717 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Il Canto degli Italiani |
Pennaeth llywodraeth | Giorgia Meloni |
Cylchfa amser | Ewrop/Rhufain |
Nawddsant | Ffransis o Assisi, Catrin o Siena |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Eidaleg |
Nifer a laddwyd | 713,499 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ewrop, yr Undeb Ewropeaidd, Ardal Economeg Ewropeaidd |
Arwynebedd | 302,068 km² |
Gerllaw | Môr Adria, Môr Tirrenia, Môr Ionia, Môr Liguria, Y Môr Canoldir |
Yn ffinio gyda | San Marino, y Fatican, Ffrainc, Y Swistir, Awstria, Slofenia, Malta |
Cyfesurynnau | 42.5°N 12.5°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth yr Eidal |
Corff deddfwriaethol | Senedd yr Eidal |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd yr Eidal |
Pennaeth y wladwriaeth | Sergio Mattarella |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog yr Eidal |
Pennaeth y Llywodraeth | Giorgia Meloni |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $2,114,356 million, $2,010,432 million |
Arian | Ewro |
Canran y diwaith | 8.1 canran |
Cyfartaledd plant | 1.2 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.895 |
Gwlad yn ne Ewrop yw Gweriniaeth yr Eidal neu'r Eidal (Eidaleg: Italia). Mae'r rhan fwyaf o'r wlad yn benrhyn mawr siâp esgid uchel gyda nifer o ynysoedd ym Môr y Canoldir: Sisili a Sardegna ydyw'r mwyaf. Yn y gogledd mae mynyddoedd yr Alpau. Ceir môr ar dair ochr i'r Eidal, ond yn y gogledd mae'n ffinio ar Ffrainc, y Swistir, Awstria, a Slofenia. Y tu mewn i'r Eidal mae dwy wladwriaeth fach: San Marino a Dinas y Fatican.
Heddiw, mae gan yr Eidal un o'r economïau mwyaf datblygedig yn y byd o ran CMC,[1][2][3] a hi yw'r wythfed economi fwyaf y byd yn ôl CMC enwol (y trydydd yn yr Undeb Ewropeaidd ), y chweched 'cyfoeth cenedlaethol' mwyaf ac yn ei banc canolog mae'r 3edd storfa fwyaf o aur wrth-gefnr. Fe'i rhestrir yn uchel iawn o ran disgwyliad oes ei phobl, ansawdd bywyd, gofal iechyd,[4] ac addysg. Mae'r wlad yn chwarae rhan amlwg mewn materion economaidd, milwrol, diwylliannol a diplomyddol rhanbarthol a byd-eang; mae'n bwer rhanbarthol[5][6] ac yn bwer mawr,[7][8] a ganddi hi mae'r wythfed byddin mwyaf pwerus y byd. Mae'r Eidal yn aelod sefydlol a blaenllaw o'r Undeb Ewropeaidd ac yn aelod o nifer o sefydliadau rhyngwladol, gan gynnwys y Cenhedloedd Unedig, NATO, yr OECD, y Sefydliad Diogelwch a Chydweithrediad yn Ewrop, Sefydliad Masnach y Byd, y Grŵp o Saith, y G20, Undeb Gwledydd y Môr Canoldir, Cyngor Ewrop, Uno er Consensws, Ardal Schengen a llawer mwy. Ganwyd llawer o ddyfeiswyr ac arlunwyr mawr y byd yn yr hyn rydym yn ei adnabod heddiw fel Yr Eidal. ,Bu'r wlad yn ganolfan fyd-eang yn y maesydd canlynol: celf, cerddoriaeth, llenyddiaeth, athroniaeth, gwyddoniaeth, technoleg, a ffasiwn ers amser maith, ac mae wedi dylanwadu a chyfrannu'n fawr at feysydd amrywiol gan gynnwys y sinema, bwyd, chwaraeon, y gyfraith, bancio a busnes.[9] Gan yr Eidal mae'r nifer fwyaf o Safleoedd Treftadaeth y Byd (58 yn 2020), a hi yw'r bumed wlad yr ymwelir â hi fwyaf gan dwristiaeth.
|url=
value (help). McGill-Queen's Press – MQUP. 17 Ionawr 2005. t. 85. ISBN 978-0-7735-2836-9. Cyrchwyd 13 Mehefin 2016.