Cyfnod hanesyddol sy'n ymestyn yn fras o gwymp yr Ymerodraeth Rufeinig ar ddiwedd y 4g i gyfnod y Dadeni a chychwyn y Diwygiad Protestannaidd (1515) yw'r Oesoedd Canol (neu'r Oesau Canol/Canol Oesoedd). Fe'i rhagfleinir yn hanesyddiaeth draddodiadol Ewrop gan y cyfnod Clasurol (Gwareiddiad Rhufain a Groeg yr Henfyd) ac fe'i olynir gan y Dadeni Dysg a'r Cyfnod Diweddar, sy'n parhau hyd heddiw.
Yn hanes Ewrop, gellir ei rannu'n dri is-gyfnod, sef:
Yn naturiol mae hyd y cyfnodau hyn yn amrywio cryn dipyn o wlad i wlad. Defnyddir y term i ddisgrifio cyfnodau cyffelyb yn hanes gwledydd eraill hefyd, yn arbennig yn achos gwledydd Gogledd Affrica, y Dwyrain Canol ac Asia.
Ar ôl cwymp Ymerodraeth Rhufain yr oedd hi'n gyfnod ansefydlog iawn yn Ewrop. Roedd pobl o sawl rhan o'r byd yn symud trwy'r cyfandir ac felly roedd y gymdeithas yn newid. Ar wahân i'r anhrefn ar ôl i'r Mongoliaid ddod i Ewrop, roedd y sefyllfa yn gwella ar ôl 1000.
Roedd yr Oesoedd Canol yn gyfnod o afiechydon mawr hefyd, gyda'r Pla Du yn lladd tuag 1/3 o boblogaeth Ewrop yn y 14g.