Enghraifft o'r canlynol | pwnc gradd |
---|---|
Math | mathemateg, gwyddoniaeth ffurfiol |
Rhan o | mathemateg, economeg |
Yn cynnwys | ystadegaeth ddisgrifiadol, ystadegaeth casgliadol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Disgyblaeth fathemategol yw ystadegaeth sy'n astudio ffyrdd o gasglu, crynhoi, dadansoddi, dod i gasgliadau a chyflwyno data.[1] Mae'n ddefnyddiol ar gyfer amrywiaeth lydan o ddisgyblaethau academaidd o'r gwyddorau ffisegol a chymdeithasol i'r dyniaethau, yn ogystal â busnes, llywodraeth, a diwydiant.[2][3] Mae ystadegau'n delio â phob agwedd ar ddata, gan gynnwys cynllunio casglu data o ran dyluniad arolygon ac arbrofion.[4]
Mae llawer o gysyniadau ystadegaeth yn dibynnu ar ddealltwriaeth o debygolrwydd, ac fe ddaw sawl term ystadegol o'r maes hwnnw, er enghraifft: poblogaeth, sampl a thebygolrwydd.
Tad gwyddoniaeth actiwaraidd bydeang oedd William Morgan (1750 - 1833) o Ben-y-bont ar Ogwr, Sir Forgannwg ac un o golofnau mawr The Equitable Life Assurance Society a'r Scottish Widows. Mae maes yr actiwri ac yswiriant yn ddibynol iawn ar ystadegaeth. Bu farw yn Stamford Hill, Llundain ar 4 Mai 1833 a chladdwyd ef yn Hornsey. Yn 2020 cyhoeddwyd cyfrol am William Morgan yng nghyfres Gwyddonwyr Cymru Gwasg Prifysgol Cymru gan Nicola Bruton Bennetts, gor-gor-gor-wyres William Morgan.[5] Cyhoeddodd Nicola Bruton Bennetts erthygl am William Morgan (perthynas pell iddi) yn y Bywgraffiadur Cymreig.[6] Un o brif feysydd William Morgan oedd y tebygolrwydd i berson fyw i oedran arbennig, ac yswiro bywydau.
Unwaith mae'r data wedi ei gasglu (trwy ddull samplu ffurfiol, neu drwy nodi canlyniadau rhyw arbrawf neu'i gilydd, neu drwy arsylwi rhyw broses drosodd a throsodd dros amser), gellir cynhyrchu crynhöadau rhifyddol gan ddefnyddio ystadegaeth ddisgrifiol.
Modelir patrymau yn y data i dynnu casgliadau ynglŷn â'r boblogaeth ehangach, gan ddefnyddio ystadegaeth gasgliadol i ddehongli hapder ac ansicrwydd y sefyllfa. Gall y casgliadau fod yn atebion i gwestiynau "ie/na" (profi rhagdybiaeth), amcangyfrif nodweddau rhifyddol, rhagweld yr arsylwadau sydd i ddod, disgrifiadau o gysylltiad, neu modelu perthynasau. Ystadegaeth gymwysiedig yw'r uchod yn y bôn. O gymharu, mae ystadegaeth haniaethol yn is-ddisgybliaeth fathemategol sy'n defnyddio tebygolrwydd a dadansoddi i roi sylfaen theoretig, gadarn i ystadegaeth.
<ref>
annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw bywgraffiadur.cymru