Zeus | |
---|---|
Mam | Rhea |
Priod | Metis |
Plant | Hephaestus, Artemis, Hermes, Persephone, Elen o Gaerdroea, Minos, Hesperides, Aoide, Aeacus, Melete, Argus, Mneme, Thelxinoë, Dardanus, Hebe, Heracles, Perseus, Tantalus, Amphion, Zethos, Eirene, Dike, Euphrosyne, Eunomia, Thalia, Aglaea, Pasithea, Pirithous, Arcas, Iasion, Sarpedon, Rhadamanthus, Sarpedon, Hellen, Eris, Castor and Pollux, Thebe |
Ym mytholeg Roeg, Brenin y duwiau, rheolwr Mynydd Olympus, a duw'r wybren a'r daran yw Zeús (Hen Roeg: Δίας; Groeg Diweddar: Ζεύς). Mae ei symbolau'n cynnwys y fellten, eryr, tarw a derwen. Mae'n rheoli fel brenin duwiau Mynydd Olympus ac mae ei enw'n gydnaws a'r duw Rhufeinig Iau. Ef yw duw'r tywydd.
Yn ogystal â'i etifeddiad Indo-Ewropeaidd, mae "casglwr y cymylau" y Groegiaid hefyd yn dangos nodweddion sy'n deillio o ddiwylliannau'r Lefant hynafol, megis y deyrnwialen. Portreadir Zeus yn fynych gan artistiaid Groegaidd mewn un o ddau osgo: yn sefyll, yn camu ymlaen â tharanfollt yn ei law dde, neu ar orsedd. Mae ei fytholegau a'i bwerau yn debyg, er nad yn union yr un fath, â rhai duwiau Indo-Ewropeaidd fel Iau, Perkūnas, Perun, Indra a Thor.[1][2][3]
Zeus oedd plentyn ieuangaf Cronus a Rhea. Yn ôl llawer o draddodiadau, priododd ef Hera, er, yn ôl oracl Dodona, Dione oedd ei gymar: yn ôl yr Iliad, ef oedd tad Aphrodite gan Dione.[4] O ganlyniad ei branciau, cafodd ef lawer o epil duwiol ac arwrol, gan gynnwys Athena, Apollo ac Artemis, Hermes, Persephone (gyda Demeter), Dionysus, Perseus, Heracles, Helen, Minos, a'r Awenau (gyda Mnemosyne); gyda Hera, cafodd ef Ares, Hebe a Hephaestus yn ôl llawer o draddodiadau.[4]