Auregnais, Aoeur'gnaeux neu Aurignais oedd yr amrywiad ar y Ffrangeg Normanaidd a siaredid ar Ynys Alderney (Ffrangeg: Aurigny; Auregnais: Aoeur'gny or Auregny) yn Ynysoedd y Sianel. Roedd yn perthyn yn agos i ieithoedd Guernésiais (Ynys y Garn), Jèrriais (Jersey), Sercquiais (Sarc) yr ynysoedd cyfagos, yn ogystal â Normaneg Cyfandirol ar dir mawr Ewrop .
Bu farw'r iaith yn yr 20g. Dim ond ychydig o enghreifftiau ohoni a erys, mewn enwau lleoedd ar Alderney yn bennaf. Mae un recordiad llafar o'r iaith yn cael ei siarad gan siaradwr brodorol ar gael. Mae ieithyddion wedi disgrifio tranc yr iaith fel "the worst documented case of recent language extinction".[1]