Belarws

Belarws
Рэспубліка Беларусь
(Belarwseg)
ArwyddairHospitality Beyond Borders Edit this on Wikidata
Mathgwladwriaeth sofran, gwladwriaeth unedol, gwladwriaeth y werin, gwlad, gwlad dirgaeedig, gweriniaeth Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlRws Gwyn Edit this on Wikidata
PrifddinasMinsk Edit this on Wikidata
Poblogaeth9,155,978 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 25 Awst 1991
  • 19 Medi 1991 Edit this on Wikidata
AnthemNi, Felarwsiaid Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethRaman Hałowčanka Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+03:00, Ewrop/Minsk Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Belarwseg, Rwseg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolDwyrain Ewrop Edit this on Wikidata
Arwynebedd207,595 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaLatfia, Lithwania, Gwlad Pwyl, Wcráin, Rwsia, yr Undeb Ewropeaidd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.5283°N 28.0467°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolCyngor y Gweinidogion Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholCynulliad Cenedlaethol Gweriniaeth Belarws Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd Belarws Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethAlexander Lukashenko Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethRaman Hałowčanka Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$69,674 million, $72,793 million Edit this on Wikidata
Arianrwbl Belarws Edit this on Wikidata
Canran y diwaith6 canran Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant1.62 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.808 Edit this on Wikidata

Gweriniaeth dirgaeedig yn nwyrain Ewrop yw Belarws (hefyd Belarus,[1] Belarŵs, Belorwsia,[2] neu Rwsia Wen; Belarwseg a Rwseg: Беларусь). Mae'n ffinio â Rwsia i'r dwyrain, ag Wcrain i'r de, â Gwlad Pwyl i'r gorllewin, ac â Lithwania a Latfia i'r gogledd. Minsk yw ei phrifddinas – mae dinasoedd mawr eraill yn cynnwys Brest, Grodno, Gomel, Mogilev, Vitebsk a Bobruisk. Coedwigir un traean o'r wlad, ac mae amaethyddiaeth a gweithgynhyrchu yn ganolog i'r economi. Belarws yw un o’r gwledydd yr effeithwyd yn fwyaf difrifol arni gan ymbelydredd niwclear o ddamwain atomfa Chernobyl o 1986 yn yr Wcrain.

Yn ystod ei hanes, bu rhannau Belarws dan reolaeth sawl gwlad, gan gynnwys Dugiaeth Polatsk, Archddugiaeth Llethaw, Cymanwlad Gwlad Pwyl-Llethaw, ac Ymerodraeth Rwsia. Daeth Belarws yn weriniaeth Sofietaidd ym 1922. Datganodd y weriniaeth ei sofraniaeth ar 27 Gorffennaf 1990. Yn sgil cwymp yr Undeb Sofietaidd, datganodd Belarws ei hannibyniaeth yn swyddogol ar 25 Awst 1991. Alexander Lukashenko yw arlywydd y wlad ers 1994. Yn ystod ei reolaeth, mae Lukashenko wedi gweithredu polisïau y cyfnod Sofietaidd, er gwaethaf gwrthwynebiadau oddi wrth bwerau gorllewinol. Mae Belarws yn trafod gyda Rwsia i uno'r ddwy wlad yn un wladwriaeth a elwir yn Undeb Rwsia a Belarws, er bod y trafodaethau yn stolio ers sawl blwyddyn.

  1. Gareth Jones (gol.), Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999)
  2. Geiriadur yr Academi, s.v. "Belorussia"

Developed by StudentB