Math | masiff, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, cadwyn o fynyddoedd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Parc Cenedlaethol Eryri |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 20,414.63 ha |
Uwch y môr | 1,085 metr |
Cyfesurynnau | 52.9°N 3.85°W |
Hyd | 2.13 cilometr |
Cadwyn fynydd | Mynyddoedd Cambria |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
Manylion | |
Rhanbarth o ogledd Cymru yw Eryri. Mae'n gartref i fynyddoedd uchaf Cymru. Yn draddodiadol defnyddir yr enw am fynyddoedd Arfon, gyda'r Wyddfa fel canolbwynt, ac yn cynnwys Glyderau, y Carneddau, Crib Nantlle, Moel Hebog a Moel Siabod. Ers ffurfio Parc Cenedlaethol Eryri, sy'n cynnwys ardaloedd tu allan i'r Eryri draddodiadol, er enghraifft ym Meirionnydd, mae tuedd wedi bod gan rai, yn enwedig o'r tu allan i Gymru, i gyfeirio at y cyfan o ardal y Parc fel "Eryri" ond mae'r Parc Cenedlaethol dros ddwywaith mwy ei faint na'r Eryri go iawn. Ffiniau'r Eryri draddodiadol, yn fras, yw'r briffordd A487 o Gaernarfon trwy Borthmadog cyn belled a Maentwrog yn y gorllewin a'r de, y briffordd A470 ymlaen i Fetws y Coed yn y de-ddwyrain ac Afon Conwy yn y dwyrain.